Maes awyr Caernarfon
Mae dyn wedi cael ei ladd ar ôl damwain awyren ysgafn ym Maes Awyr Caernarfon, ger Dinas Dinlle.

Mae hynny union flwyddyn ers damwain arall yn yr un maes awyr pan gafodd un dyn ei ladd a   dau berson eu brifo.

Fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r ddamwain  a ddigwyddodd tua chwech o’r gloch neithiwr.

Yn ôl y gwasanaethau brys, fe gafodd dyn 55 oed ei dynnu o’r awyren a’i gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol.

Fe gyhoeddwyd yn ddiweddarach ei fod wedi marw.