Y Llys yng Nghaerdydd
Mae’n bosib fod y gyrrwr sy’n cael ei gyhuddo o daro i mewn i blant a dynes lolipop y tu allan i ysgol ym Mro Morgannwg wedi dioddef o bwl o beswch y tu ôl i’r llyw, yn ôl doctor.

Mae Robert Williams Bell, 62, yn cael ei gyhuddo o yrru yn ddiofal ar ôl colli rheolaeth o’i gar y tu allan i Ysgol Gynradd Y Rhws ym mis Mehefin y llynedd.

Cafodd pump o blant a thri oedolyn, gan gynnwys y ddynes lolipop Karin Williams, eu hanafu gydag un ferch 10 oed yn gorfod treulio cyfnod ar beiriant cynnal bywyd yn sgil anafiadau difrifol i’w phen.

Mae Robert Bell yn honni nad yw’n cofio’r digwyddiad, ac yn gwadu cyhuddiad o yrru heb ofal.

Llewygu

Ddydd Mercher, clywodd yr achos bod Robert Bell wedi bod yn “dal y llyw yn dynn, gyda’i lygaid ar agor led y pen” pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Ond yn ôl yr arbenigwr meddygol yr Athro Alyn Huw Morice, oedd yn rhoi tystiolaeth ar ran yr amddiffyniad, cafodd Robert Bell bwl drwg o beswch sy’n gallu achosi pobol i lewygu.

Ychwanegodd Alyn Morice fod Robert Bell yn arfer ysmygu ac felly’n debygol o fod â phroblemau tagu.

Ond mae’r erlyniad wedi gwadu’r honiad gyda’u harbenigwr nwh’n dweud fod tystiolaeth arall yn anghyson gyda’r syniad o bwl pesychu gwael. Maen nhw’n honni mai esgidiau flip-flob Robert Bell oedd wedi bachu yn y sbardun.

Mae’r achos yn parhau.