Cafodd Abertawe a Chaerdydd dros £60m yr un gan Uwch Gynghrair Lloegr mewn taliadau teledu ac arian gwobrwyol y tymor hwn, yn ôl ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi.
Derbyniodd Caerdydd gyfanswm o £62miliwn gan y gynghrair am hawliau darlledu a gwobrau ariannol drwy gydol y tymor, gydag Abertawe’n derbyn £74miliwn.
Ond yr Adar Gleision gafodd y swm isaf o holl glybiau’r Uwch Gynghrair, gyda Lerpwl ar y brig gan dderbyn £97.5miliwn, ac Abertawe yn 11.
Roedd yr arian yn cynnwys taliadau am hawliau darlledu ym Mhrydain a thramor, sydd yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng y clybiau, oedd yn cyfrif am dros £50m o’r arian i bob clwb.
Yn ogystal mae’r clybiau hefyd yn cael eu talu bron i £800,000 bob tro y caiff un o’u gemau nhw ei ddarlledu, gyda Chaerdydd yn derbyn £8.6m ac Abertawe’n cael £10.8m am y gemau hynny.
Mae’r clybiau hefyd yn derbyn arian gwobrwyol gan yr Uwch Gynghrair yn dibynnu ar ble maen nhw’n gorffen yn y tabl, gyda’r swm yn cynyddu £1.2m am bob safle.
Caerdydd ar waelod y tabl
Gan mai Caerdydd orffennodd ar waelod y tabl dim ond y £1.2m cyntaf gawson nhw, tra bod Abertawe wedi derbyn £11.1m a hynny am orffen yn ddeuddegfed.
Roedd yr arian a gafodd ei ddosbarthu i glybiau’r tymor hwn yn uwch nag erioed ar ôl i’r Uwch Gynghrair arwyddo cytundeb gyda’r darlledwyr llynedd.
Mae timau sydd yn disgyn o’r Uwch Gynghrair hefyd yn derbyn taliadau parasiwt o hyd at £40m dros dair blynedd, sydd yn golygu fod Caerdydd yn debygol o fod wedi gwneud dros £100m o’u harhosiad byr yn y gynghrair.
Un o’r gemau gafodd eu darlledu dramor oedd yr ornest rhwng Abertawe a Chaerdydd ym mis Chwefror – gêm gyntaf Garry Monk wrth y llyw, pan enillodd yr Elyrch o 3-0 yn erbyn eu hen elynion.
Cyhoeddwyd heddiw hefyd mai’r gêm honno oedd yr un fwyaf poblogaidd o holl gemau’r Uwch Gynghrair gyda gwylwyr Americanaidd sianel NBC y tymor hwn, gyda 1.24 miliwn yn ei gwylio.