Stadiwm Liberty
Mae ffigurau gan sianel deledu NBC yn dangos mai’r gêm Uwch Gynghrair rhwng Abertawe a Chaerdydd oedd fwyaf poblogaidd ymhlith y gynulleidfa Americanaidd y tymor hwn.
Gwyliodd 1.24 miliwn o bobol yr ornest yn Stadiwm Liberty pan gafodd ei darlledu’n fyw ym mis Chwefror.
Abertawe oedd yn fuddugol o 3-0 yng ngêm gynta’r rheolwr Garry Monk wrth y llyw.
Mae NBC yn dweud mai digwyddiadau’r wythnos honno o fewn clwb Abertawe yw’r prif reswm pam fod cymaint o bobol wedi gwylio’r gêm.
Cafodd y rheolwr Michael Laudrup ei ddiswyddo ychydig ddiwrnodau cyn y gêm.
Dywedodd y sianel ei bod yn debygol bod nifer fawr o bobol wedi parhau i wylio’r sianel yn dilyn rhaglen o Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi.
Roedd rhaglen arall o Sochi wedi dilyn y gêm hefyd.
Cost darlledu’r ornest i’r sianel oedd $250 miliwn (£148 miliwn).
Gêm arall Abertawe oedd yn ail ar y rhestr hefyd – y gêm yn erbyn Man U pan gollodd yr Elyrch o 2-0.
1.1 miliwn o bobol wyliodd yr ornest honno.