Y Cae Ras yn Wrecsam
Mae disgwyl i’r Cae Ras yn Wrecsam gael ei ailwampio yn ystod yr haf fel bod modd cynnal gemau rhyngwladol yno unwaith eto.
Ymhlith y cynlluniau, sy’n debygol o gostio £300,000, mae cae ac ystafelloedd newid newydd sbon.
Mae disgwyl hefyd i’r cyfleusterau meddygol, seddau i gefnogwyr ag anableddau a’r llifoleuadau gael eu huwchraddio.
Unwaith bydd y gwaith wedi’i gwblhau, fe fydd statws Categori 3 gan y stadiwm, sy’n golygu y bydd yn gymwys i gynnal gemau rhyngwladol.
Mae’r gwaith yn cael ei gwblhau yn dilyn nawdd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, y Gynghrair Rygbi’r Gynghrair (RFL), Clwb Pêl-droed Wrecsam, Cymdeithas Cefnogwyr Anabl CPD Wrecsam a Chronfa Gwella Stadiymau Pêl-droed.
Mae disgwyl i’r cae fod ar gau am ddeufis tra bo’r gwaith yn cael ei gwblhau.
Mae cryn dipyn o waith cynnal a chadw wedi cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cyfleusterau i gefnogwyr ag anableddau, gwella ansawdd sgriniau teledu a goleuadau argyfwng.
Mae’r clwb hefyd wedi agor siop newydd yn ystod y tymor.