Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Ki Sung-Yueng a chwaraewr canol cae Caerdydd, Kim Bo-Kyung wedi’u cynnwys yng ngharfan De Corea ar gyfer Cwpan y Byd.

Cafodd y ddau eu henwi ymhlith y 23 terfynol heddiw.

Maen nhw’n ymuno â’r unig chwaraewr arall o’r Uwch Gynghrair, ymosodwr Arsenal, Park Chu-Young.

Bydd De Corea yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am yr wythfed tro yn olynol ac fe fyddan nhw’n herio Rwsia, Algeria a Gwlad Belg yng Ngrŵp H.

Mae Ki wedi bod yn allweddol yng ngharfan Sunderland y tymor hwn yn ystod ei gyfnod ar fenthyg o’r Elyrch, wrth i’r tîm o ogledd-ddwyrain Lloegr lwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Kim wedi cynrychioli’i wlad 26 o weithiau hyd yn hyn.