Mae Morgannwg wedi colli eu gornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Hampshire yn Southampton, sy’n golygu diwedd ar eu cyfnod di-guro ar ddechrau’r tymor.
Fe ddechreuodd yr ymwelwyr y diwrnod olaf ar 185-9, oedd yn golygu blaenoriaeth o 64 ar lain sydd wedi bod yn ffafriol i’r bowlwyr drwyddi draw.
Dim ond dau rediad a gafodd eu hychwanegu at gyfanswm dros nos Morgannwg, gan osod nod i Swydd Hampshire o 67 i ennill.
Tom Helm oedd y batiwr olaf i adael y cae, gyda Morgannwg yn 187 i gyd allan.
Nid oedd yr ymwelwyr yn barod i ildio, fodd bynnag, er gwaetha’r nod gymharol isel.
Cipiodd y bowliwr lled-gyflym Ruaidhri Smith wiced gyda’i bedwaredd belen wrth iddo fowlio Jimmy Adams.
Bu bron iddo gipio dwy wiced arall yn ei belawd nesaf, ond fe gwympodd y bêl o flaen y slip ar ddau achlysur.
Buan y dychwelodd batiwr Lloegr, Michael Carberry i’r pafiliwn weidi iddo yrru’r bêl i gyfeiriad Stewart Walters yn safle’r ail slip oddi ar Smith unwaith eto.
Cipiodd Smith ei drydedd wiced wrth gael Liam Dawson allan gyda’i goes o flaen y wiced, a’r tîm cartref bellach wedi plymio i 27-3.
Gyda’r fuddugoliaeth i Swydd Hampshire bellach yn anochel, galwodd Morgannwg ar eu batiwr agoriadol, Gareth Rees i fowlio ychydig o belawdau tua diwedd y batiad.
Fe lwyddodd hwnnw i gipio wiced hefyd gyda’i belenni troellog wrth i Will Smith yrru i gyfeiriad y maeswr lled-agos ochr agored.
Ond fe lwyddodd Joe Gatting a James Vince i daro’r rhediadau buddugoliaeth toc wedi 12.20yh.
Dim ond pedwar pwynt sydd gan Forgannwg allan o’r ornest hon, ond mae Swydd Hampshire yn codi i frig yr ail adran gyda 22 o bwyntiau.
Gallwch ddarllen crynodeb o’r ornest a’r sgorfwrdd llawn isod.