Hyfforddwr Cymru Warren Gatland
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi’r ddau dîm Cymru fydd yn wynebu’i gilydd mewn gêm dreial cyn iddo ddewis y garfan ar gyfer y daith i Dde Affrica ym mis Mehefin.

Cafodd 52 chwaraewr eu henwi’n gyfan gwbl, gydag Alun Wyn Jones yn gapten ar y Probables a Matthew Rees yn gapten ar y Possibles.

Mae’r Cymry sydd allan yn Ffrainc wedi’u cynnwys yn ogystal â nifer o’r rhai sydd yn chwarae yn Lloegr – gan gynnwys Gavin Henson.

Ond chwaraewyr o ranbarthau Cymru yw’r rhan helaeth o’r garfan, fel y disgwyl.

Fe enwodd Rob Howley ddau chwaraewr sydd eto i ennill cap dros Gymru yn nhîm y Probables – prop y Dreigiau Owen Evans a Sam Davies o’r Gweilch.

Mae Owen Williams, y maswr sydd wedi disgleisio i dîm Caerlŷr eleni ond eto i ennill cap dros ei wlad, wedi’i gynnwys yn nhîm y Possibles.

Yn ogystal â Williams bydd carfan y Possibles hefyd yn cynnwys naw chwaraewr arall sydd heb ennill cap dros Gymru – Phil Price (Dreigiau), Kristian Dacey, Macauley Cook (Gleision), Matthew Morgan (Gweilch), Rob Evans, James Davies, Gareth Davies, Jordan Williams a Steven Shingler (Scarlets).

Ac mae George North wedi’i gynnwys yn nhîm y Probables er gwaethaf y ffaith fod posibiliad y bydd ei glwb Northampton yn cyrraedd rownd derfynol cynghrair Aviva Lloegr ar benwythnos y gêm.

Ond dyw Rhys Priestland, Richard Hibbard a Rhys Webb ddim yn y garfan oherwydd anafiadau.

Rob Howley fydd yn arwain un tîm, gyda Robin McBryde yn hyfforddi’r llall pan fyddwn nhw’n wynebu’i gilydd yn Stadiwm y Liberty, Abertawe, ar 30 Mai.

Mae disgwyl i Gatland gyhoeddi’i garfan ar gyfer y daith i Dde Affrica’n syth wedi’r gêm dreial.

Her newydd

Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd Gatland ei fod eisiau cynnal y gêm – y cyntaf o’i fath mewn 14 mlynedd – er mwyn rhoi cyfle i rai o’r bechgyn ar y cyrion frwydro am eu lle ac i baratoi’r tîm ar gyfer y daith.

Roedd pryderon wedi codi cyn cyhoeddiad y ddau dîm na fyddai chwaraewyr Cymru sydd yng nghlybiau Lloegr a Ffrainc yn cael eu rhyddhau ar gyfer y gêm.

Oherwydd mai gêm gyfeillgar rhwng y garfan yw hi i bob pwrpas ac nad yw hi o fewn ffenestr gemau rhyngwladol swyddogol yr IRB, doedd dim rhaid i’r clybiau hynny ryddhau chwaraewyr.

Er hynny, mae llawer o’r chwaraewyr hynny wedi cael eu cynnwys yn y ddwy garfan.

Bydd Sam Warburton, Justin Tipuric Leigh Halfpenny a Scott Williams i gyd yn methu’r gêm a’r daith i Dde Affrica oherwydd anafiadau.

Carfan y Probables

Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Owen Evans (Dreigiau), Rhys Gill (Saracens), Ken Owens (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Alun Wyn Jones – capten (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Jake Ball (Scarlets), Ryan Jones (Bryste), Aaron Shingler (Scarlets), Josh Navidi (Gleision), Dan Lydiate (Racing Metro), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Olwyr: Rhodri Williams (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro), Dan Biggar (Gweilch), Sam Davies (Gweilch), Jon Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), Gavin Henson (Caerfaddon), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton), Hallam Amos (Dreigiau), Liam Williams (Scarlets).

Carfan y Possibles

Blaenwyr: Paul James (Caerfaddon), Phil Price (Dreigiau), Rob Evans (Scarlets), Matthew Rees (Gleision), Kristian Dacey (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Aaron Jarvis (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), Ian Evans (Gweilch), Macauley Cook (Gleision), Josh Turnbull (Scarlets), James Davies (Scarlets), Dan Baker (Gweilch).

Cefnwyr: Gareth Davies (Scarlets), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Matthew Morgan (Gweilch), Harry Robinson (Gleision), Owen Williams (Caerlŷr), Steven Shingler (Scarlets), Cory Allen (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch), Tom Prydie (Dreigiau), Jordan Williams (Scarlets).