Tim Ysgol Glan Clwyd, Llun: Arwyn Jones
Fe ddaethon nhw’n agos tu hwnt, ond yn y diwedd colli ar giciau o’r smotyn wnaeth bechgyn dan-18 Ysgol Glan Clwyd yn rownd derfynol Cwpan Ysgolion Cymru ddydd Sul.
Cafwyd brwydr hynod rhyngddyn nhw a’r Olchfa o Abertawe ar gae’r Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt, gyda Glan Clwyd yn sgorio yn y tri munud cyntaf cyn i’w gwrthwynebwyr unioni’r sgôr cyn yr egwyl.
Ar ôl i’r ddau dîm fethu cyfleoedd a’r gêm yn gorffen 1-1 fe aeth hi i giciau o’r smotyn, ac o 12 llathen yr Olchfa oedd yn fuddugol o 3-1.
Ac fe ddaeth rhediad o bum buddugoliaeth gwpan yn olynol i Dîm yr Wythnos golwg360 i ben gyda’r golled greulon hwnnw o’r ciciau.
Yr Olchfa oedd deiliaid y gwpan ar ôl ennill y categori dan-18 llynedd hefyd ac felly nhw oedd y ffefrynnau’n mynd i mewn i’r gêm.
Dechrau da
Ond fe ddechreuodd Glan Clwyd yn wych ar ôl i’r ymosodwr Gruff Roberts gasglu cic hir y golwr Robbie Rimmington, cyn gwingo heibio i ddau amddiffynnwr a gwasgu’r bêl i’r rhwyd o ongl dynn ar ôl tair munud.
Cafodd Glan Clwyd ragor o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf i ymestyn eu mantais, gyda Roberts yn ergydio’n syth am y golwr ar ôl pas wych gan y capten Gareth Royles.
Royles oedd y nesaf i fethu cyfle euraidd wedyn ar ôl canfod ei hun wyneb yn wyneb â’r golwr, ac wrth geisio codi’r bêl drosto’n glyfar llwyddodd hefyd i’w rhoi hi dros y trawst.
Ac roedd yn sicr yn difaru methu ychydig yn ddiweddarach pan rwydodd Dan Davies gôl i’r Olchfa er mwyn unioni’r sgôr, ar ôl casglu pas Mike Wilson a gweld ei ergyd gyntaf yn taro’r postyn cyn adlamu’n glên yn ôl iddo.
Ac roedd hi bron yn 2-1 i’r Olchfa cyn yr egwyl ar ôl i Davies gasglu pas hir a chodi’r bêl yn dwt dros Rimmington yn y gôl i Glan Clwyd – cyn i’r amddiffynnwr Sean James redeg nôl i’w chlirio oddi ar y llinell.
Poen y pens
Cadwodd yr Olchfa’r pwysau ar Glan Clwyd yn yr ail hanner gyda Davies yn gorfodi arbediad da gan Rimmington, cyn i’r Olchfa apelio am gic o’r smotyn ar ôl i Garin Roberts ymddangos fel petai wedi baglu Wilson yn y cwrt.
Ond nid felly yn ôl y dyfarnwr, ac felly ciciau o’r smotyn oedd hi gydag Adam Jones i’r Olchfa a Matty Evans Glan Clwyd yn methu’r ciciau cyntaf.
Ond ar ôl i Aron Lewis a Dan Davies sgorio i’r tîm o Abertawe roedd y pwysau i gyd ar Sion Brisbane, ac fe fethodd hwnnw i anfon y gwpan yn ôl i dde Cymru.
Ar ôl y gêm fe ddywedodd hyfforddwr tîm Glan Clwyd Dylan Jones ei bod hi byth yn neis colli gemau yn y ffordd yna, ac er bod eu gwrthwynebwyr wedi cael mwy o feddiant fod ei dîm ef wedi cael y cyfleoedd gorau.
Os oes gennych chi gêm fawr ar y gweill, neu os hoffech chi fod yn Dîm yr Wythnos golwg360 rywbryd, cysylltwch â ni!