Brendan Rodgers
Cafodd rheolwr Lerpwl Brendan Rodgers ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn LMA neithiwr ar ôl tymor cofiadwy tu hwnt i’w dîm.

Gorffennodd ei dîm yn ail yn yr Uwch Gynghrair, yn uwch na phob disgwyl ar ddechrau’r tymor, ac er iddyn nhw golli allan ar y tlws i Man City yn yr wythnosau olaf rhoddwyd clod i Rodgers am gynnydd Lerpwl eleni.

Cafodd cyn-reolwr Abertawe ei ddewis ar ôl pleidlais gan holl reolwyr y clybiau proffesiynol ym mhedair adran uchaf cynghreiriau Lloegr.

Tony Pulis gafodd ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn yr Uwch Gynghrair ar ôl arwain Crystal Palace i 11eg yn y tabl.

Pan ymunodd y Cymro â Palace ar ddiwedd mis Tachwedd roedd y clwb ar waelod y gynghrair gydag ond pedwar pwynt, ac yn ffefrynnau clir i ddisgyn yn syth nôl i’r Bencampwriaeth.

Ond fe drawsnewidiodd Pulis y tîm, gan arwyddo nifer o chwaraewyr ym mis Ionawr yn cynnwys Joe Ledley a Wayne Hennessey, ac ennill 13 o’i 28 gêm wrth y llyw er mwyn eu hachub.

Rheolwr Caerlŷr, Nigel Pearson, enillodd y wobr am Reolwr y Flwyddyn y Bencampwriaeth ar ôl ennill y gynghrair gyda thîm sydd yn cynnwys y Cymro Andy King.

Y Cymro Kenny Jackett enillodd wobr rheolwr Cynghrair Un ar y cyd â Russell Slade o Leyton Orient ar ôl arwain Wolves i’r brig, gyda Sam Ricketts a Dave Edwards ymysg y tîm sicrhaodd ddyrchafiad.

Russ Wilcox o Scunthorpe gafodd wobr rheolwr Cynghrair Dau, a Nigel Clough o Sheffield United yn cipio’r wobr am reolwr gorau Cwpan FA Lloegr.