Mae Lewis Hamilton bellach yn arwain Pencampwriaeth y Byd F1 am y tro cyntaf eleni ar ôl llwyddo i drechu ei gyd-yrrwr Mercedes, Nico Rosberg, yn Grand Prix Sbaen dros y penwythnos.

Roedd pedwaredd fuddugoliaeth Hamilton yn olynol yn golygu ei fod bellach ar 100 o bwyntiau yn y tabl, tri yn well na Rosberg, mewn tymor ble mae tîm Mercedes yn edrych yn gryfach o lawer na’u gwrthwynebwyr hyd yn hyn.

Bu’n frwydr agos rhwng Hamilton a Rosberg drwy gydol y ras, gyda cheir Red Bull Daniel Ricciardo a Sebastian Vettel yn gorffen yn bell y tu ôl iddyn nhw yn drydydd a phedwerydd.

Phil Kynaston fu’n cloriannu’r penwythnos i golwg360 …

Y rhagbrawf

Ar ddechrau penwythnos Grand Prix Sbaen, roedd hyd yn oed cyffro yn y sesiynau ymarfer. Yn y sesiwn cyntaf ddydd Gwener, ni lwyddodd y pencampwr Sebastian Vettel i gwblhau hyd yn oed pedwar lap.

Ar ôl dioddef problem wifrau fe stopiodd ar y trac. Mae’n dangos nad arian yw popeth mewn camp mor ddrud, wrth i’r Almaenwr orfod eistedd allan gweddill y diwrnod oherwydd darn a gostiodd ychydig o bunnoedd!

Hefyd, nid am y tro cyntaf y tymor yma, fe adawodd gar y pit heb ei ffitio’n gywir. Eto fe ddangoswyd pa mor ddifrifol mae’r stiwardiaid yn cymryd hyn, wrth i Jean-Eric Vergne gael cosb o ddeg safle ar y grid, a’i dîm yn cael dirwy o €30,000.

Byddai’r Ffrancwr felly yn cychwyn yn olaf. Yn ystod y rhagbrawf, roedd hi’n glir iawn cymaint yn llai o ‘downforce’ sydd gan geir eleni, gyda gyrwyr yn cael trafferth trwy nifer o gorneli. Bu cymaint o drafferth i Maldonado nes iddo orffen yn y wal (gan stopio’r sesiwn am beth amser), a rhannu rhes ôl y grid gyda Vergne.

Wrth i’w benwythnos fynd o ddrwg i waeth, fe stopiodd Vettel ar y trac (fflag goch am yr ail dro yn y sesiwn), gyda phroblem gerbocs, a gorfod cychwyn yn 15fed.

Fe gafodd Sebastian Grosjean sesiwn da iawn yn ei Lotus i roi’r car yn bumed, ac fe gurodd Kimi Raikkonen ei gyd-yrrwr Fernando Alonso, gyda cheir coch Ferarri’n chweched a seithfed.

Eto, Hamilton oedd ar y blaen gyda Rosberg wrth ei ochr, a Ricciardo a Valeri Bottas y tu ôl iddynt.

Vettel yn brwydro

Ar ddechrau’r ras cafodd Bottas y gorau o Ricciardo i gipio trydydd ar y ffordd i’r gornel gyntaf (y pellter hiraf rhwng y llinell gychwyn a’r gornel gyntaf ar y calendr), wrth i’r ddau Mercedes agor bwlch ar y gweddill.

Gan ddechrau o bymthegfed roedd Vettel yn lwcus i osgoi pynjar ar yr ail lap wrth i Kevin Magnussen adael y trac ac ailymuno yn agos iawn i’r Red Bull. Dydi’r dyn o Ddenmarc heb gael ras di-broblem ers Awstralia.

Methodd tîm Williams y cyfle i ymateb efo Bottas ar ôl i Ricciardo bitio. Wedi i’r rownd gyntaf o stopiau orffen roedd y Red Bull yn ôl yn y safle podiwm olaf. Mae’n debyg bod y gwaith strategaeth glyfar a adawodd y tîm i ennill eu ras gyntaf mewn wyth mlynedd, yn Sbaen 2012, wedi diflannu.

Fe ddaeth penwythnos gwael Jean-Eric Vergne i ben wrth iddo ymddeol ar lap 25 gyda thrafferth egsôst.

Trwy’r ras roedd Sebastian Vettel yn profi ei sgil goddiweddu, rhan o’r grefft mae llawer yn credu sydd ar goll ganddo, wrth basio nifer o geir drwy gornel deg, man anarferol iawn.

Bywiogi tua’r diwedd

Nid nes diweddglo’r ras y daeth pethau’n fyw. Roedd brwydr rhwng y ddau Fercedes wedi bod yn bygwth drwy gydol y ras, ac yn y deg lap olaf fe ddechreuodd Rosberg gau’r bwlch ar Hamilton.

Gan ddangos eu goruchafiaeth, tra’r oedd y ddau gar arian yn ymladd, ychydig y tu ôl iddynt ond lap cyfan ar ei hol hi, roedd Alonso’n trio’i orau i basio Raikkonen gyda’r rhan fwyaf o’r dorf yn ei  gefnogi.

Gyda dau lap i fynd, fe gymerodd Alonso’r pumed safle. Ond stori debyg i Fahrain oedd hi rhwng y Mercedes, gyda Hamilton yn cymryd y fflag lai nag eiliad o flaen Nico, ond yn cyfaddef eto fod ei gyd-yrrwr yn gryfach.

Gan ddangos peth adfywiad i Red Bull, roedd gan Ricciardo reswm i wenu gyda’i bodiwm swyddogol gyntaf, tra bod Vettel wedi cael ras wych i orffen yn bedwerydd. Sgoriodd Grosjean a Lotus eu pwyntiau cyntaf yn wythfed ar ôl penwythnos addawol.

Ar ôl ennill pedair ras o bump, mae Hamilton o’r diwedd yn cyrraedd brig y bencampwriaeth gyda Rosberg tri phwynt y tu ôl iddo. Mae’n beth gwych i F1 mewn tymor ble mae un tîm mor bell ar y blaen bod eu gyrwyr yn cael rasio a rhoi brwydr agos i’r cefnogwyr.

Alonso sy’n aros yn drydydd, tra bod Ricciardo yn parhau i gael tymor addawol dros ben gan agosáu at ei gyd-yrrwr, Vettel.

Ar ôl methu pasio Hamilton yma, bydd Rosberg yn gobeithio bod ar y blaen o’r dechrau tro nesaf ar drac troellog a chul Monaco.