Nigel Davies
Mae Caerloyw wedi cyhoeddi bod eu cyfarwyddwr rygbi, Nigel Davies, wedi gadael y clwb.
Mae Nigel Davies, cyn ganolwr rhyngwladol Cymru, wedi gorfod talu’r pris wedi i Gaerloyw gael tymor gwael a welodd y clwb yn gorffen yn nawfed yn Uwch Gynghrair Aviva.
Roedd ei gêm olaf wrth y llyw ddeuddydd yn ôl pan wnaeth Caerloyw golli 28-27 yn erbyn Caerwrangon.
Symudodd Davies i Gaerloyw o’r Scarlets ym mis Mehefin 2012, ond dyw’r tîm heb weld unrhyw ddatblygiad ers hynny.
Cafodd penderfyniad Caerloyw ei gadarnhau gan brif weithredwr y clwb, Stephen Vaughan.
Meddai: “Yn dilyn trafodaethau helaeth rhwng aelodau o fwrdd Caerloyw, mae’r clwb wedi penderfynu mynd i gyfeiriad gwahanol a’r cyfarwyddwr rygbi, Nigel Davies.”
Ychwanegodd Stephen Vaughan y byddai’r chwilio am olynydd Davies yn un helaeth.