George North
Collodd Caerfaddon allan ar le yng ngemau ail gyfle diwedd tymor Cynghrair Lloegr, ar ôl iddyn nhw gael eu trechu gan Harlequins ar ddiwrnod olaf y tymor.

Dechreuodd Paul James wrth i’r Quins ennill 19-16 i gipio lle ei dîm ef ym mhedwerydd safle’r gynghrair, tra bod Gavin Henson wedi gorfod gwylio’r cyfan o’r fainc.

Roedd Caerlŷr eisoes wedi sicrhau eu lle nhw yn y gemau hynny ar ôl dod yn drydydd yn y tabl, ac fe enillon nhw 31-27 yn erbyn Saracens a orffennodd ar frig y tabl.

Trosodd Owen Williams un gic gosb cyn dod oddi ar y cae cyn yr egwyl ag anaf i Gaerlŷr, ac fe ddaeth Rhys Gill oddi ar y maes i’r gwrthwynebwyr hefyd ar ôl wyth munud o’r ail hanner.

Sicrhaodd Northampton eu bod nhw’n gorffen yn ail yn y tabl ar ôl rhoi crasfa i Wasps, gyda George North yn sgorio dwy o’u un ar ddeg cais wrth iddyn nhw ennill 74-13.

Bydd Northampton nawr yn chwarae gartref yn rownd gynderfynol y gemau diwedd tymor yn erbyn Caerlŷr nos Wener, tra bod Saracens yn herio’r Harlequins brynhawn Sadwrn am le yn y ffeinal.

Llwyddodd Andy Fenby i sgorio dwy gais yng ngêm olaf y tymor ei dîm hefyd, wrth i Wyddelod Llundain drechu Sale 22-20 yng ngêm olaf Ian Gough i’r clwb cyn iddo symud i’r Dreigiau.

Daeth Marc Jones, Eifion Lewis-Roberts a Nick MacLeod i gyd oddi ar y fainc i Sale am yr ugain munud olaf ond doedden nhw methu gwneud unrhyw beth i newid y canlyniad wrth i geisiau Fenby ennill y gêm – a MacLeod yn methu cic gôl hwyr.

Gorffennodd Caerwysg eu tymor gyda buddugoliaeth dros Newcastle, gyda Phil Dollman yn dechrau iddyn nhw a Tom James ar y fainc – a Warren Fury yn ymddangos fel eilydd hefyd.

Ac fe lwyddodd Jonathan Thomas a Caerwrangon i ennill eu gêm olaf hwythau wrth iddyn nhw ffarwelio â’r gynghrair, gan drechu Caerloyw 28-27.

Seren yr wythnos: Andy Fenby – dwy gais arall i orffen tymor da iddo. Tybed a gaiff cyfle gyda Chymru’n fuan?

Siom yr wythnos: Owen Williams – anaf yn golygu bod siawns na fydd ar yr awyren i Dde Affrica.