Cyhoeddwyd heddiw y bydd ymgais tîm criced Lloegr i adennill cyfres y Lludw yn 2015 yn dechrau yng Nghaerdydd.

Daeth y cyhoeddiad wrth i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr gyhoeddi manylion taith Awstralia i’r DU haf nesaf.

Bydd gêm brawf gyntaf y gyfres yn cael ei chynnal yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd ac yn dechrau ar 8 Gorffennaf.

Bydd y gemau eraill yn cael eu cynnal yn Lord’s, Edgbaston, Trent Bridge a’r Oval, gyda’r prawf olaf yn dechrau ar Awst 20.

Bydd tîm Lloegr yn gobeithio gwneud yn well nag y gwnaethon nhw ar daith o Awstralia’r gaeaf diwethaf pan gawson nhw eu trechu 5-0 gan Awstralia.