Aaron Ramsey
Gorffennodd Aaron Ramsey ei dymor gwych mewn steil gyda gôl hyfryd i Arsenal yn eu buddugoliaeth o 2-0 dros Norwich, canlyniad a gadarnhaodd yn fathemategol fod y Canaries yn disgyn o’r Uwch Gynghrair.
Ers i Ramsey ddychwelyd o anaf mae Arsenal wedi edrych yn llawer gwell tîm, ac er nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth i chwarae amdano, fe fydd gôl y Cymro yn hwb wrth iddyn nhw baratoi am ffeinal Cwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.
Gwyliwch gôl wych Ramsey isod:
Siom fu hi i Joe Allen a Lerpwl, fodd bynnag, wrth i fuddugoliaeth Man City dros West Ham gadarnhau na fydd y Cochion yn ennill y gynghrair er gwaethaf ymdrech wych ganddyn nhw eleni.
Roedd Allen oddi ar y cae erbyn i Lerpwl gipio’u dwy gôl ac ennill 2-1 yn erbyn Newcastle, gyda Paul Dummett yn dod oddi ar y fainc i’r Magpies – a chael cerdyn coch o fewn pum munud.
Fe ffarweliodd Caerdydd â’r Uwch Gynghrair wrth golli 2-1 i Chelsea, ond doedd hynny ddim yn adrodd yr holl stori ar ôl i’r Adar Gleision fynd ar y blaen diolch i ergyd Craig Bellamy – ei ymddangosiad olaf ar y lefel hwn siawns.
Fe chwaraeodd Declan John y 90 munud llawn, ac fe gafwyd cip o ddyfodol posib Caerdydd wrth i’r Cymro ifanc Rhys Healey – oedd yn chwarae i Gap Cei Connah yn Uwch Gynghrair Cymru tymor diwethaf – ddod oddi ar y fainc am Bellamy am y chwarter awr olaf.
Gorffennodd Abertawe eu tymor wrth guro Sunderland 3-1, gyda Neil Taylor yn dechrau a Ben Davies hefyd yn dod i’r maes – cafodd Ashley Williams brynhawn yn ymlacio ar y fainc.
Chwaraeodd Wayne Hennessey ei gêm gyntaf yn y gôl i Crystal Palace wrth i’w dîm ef a Joe Ledley gael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Fulham.
Fe wnaeth Cymro arall ymddangosiad cyntaf nodweddiadol yn ystod yr wythnos hefyd, ar ôl i reolwr dros dro Manchester United, Ryan Giggs, benderfynu dewis Tom Lawrence yn eu buddugoliaeth o 3-1 dros Hull nos Fawrth.
Cafodd Lawrence, sydd wedi bod ar fenthyg yn Carlisle a Yeovil y tymor hwn, gêm dda ac fe ddywedodd Giggs ar ôl y gêm bod y cefnogwyr newydd gael cip ar ddyfodol y clwb.
Daeth gobeithion Gareth Bale o ennill La Liga yn ei dymor cyntaf yn Sbaen i ben ar ôl i Real Madrid golli o 2-0 i Celta Vigo.
Ond chafodd Bale a nifer o sêr eraill Real ddim gêm wrth i’r rheolwr Carlo Ancelotti orffwys rhai o’r prif chwaraewyr, â rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr mewn pythefnos.
Ac yn Uwch Gynghrair yr Alban daeth Owain Tudur Jones oddi ar y fainc i Hibernian ond yn anffodus fe gollon nhw 1-0 i Kilmarnock, sydd yn golygu eu bod nawr yn wynebu gêm ail gyfle i aros yn y gynghrair.
Seren yr wythnos: Aaron Ramsey – gôl wych arall yn tanlinellu faint o golled mae ei absenoldeb wedi bod i Arsenal eleni.
Siom yr wythnos: Paul Dummett – cerdyn coch dadleuol, ond saff dweud fod hynny wedi sbwylio’i brynhawn!