Caerdydd 1–2 Chelsea

Gorffen ar y gwaelod oedd hanes Caerdydd yn eu tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi iddynt golli yn erbyn Chelsea yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sul.

Roedd yr Adar Gleision yn gwybod yn barod mai yn ôl yn y Bencampwriaeth y byddant yn chwarae’r tymor nesaf ond gorffennodd tymor siomedig gydag un siom olaf wrth iddynt ildio gôl o fantais a cholli gêm olaf y tymor i orffen ar waelod y tabl.

Bu bron i Fernando Torres roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond pum munud ond llwyddodd Steven Caulker i glirio ei gynnig oddi ar y llinell.

Yna, aeth Caerdydd ar y blaen wedi chwarter awr pan wyrodd ergyd Craig Bellamy oddi ar Cesar Azpilicueta ac i gefn y rhwyd.

Cafodd Mohamed Salah ac Oscar gyfleoedd i unioni pethau cyn yr egwyl ond llwyddodd Caerdydd i aros ar y blaen tan hanner amser.

Roedd Chelsea yn well wedi’r egwyl ac roeddynt yn gyfartal ddeunaw munud o’r diwedd pan rwydodd Andre Schürrle wedi i gynnig Azilicueta gael ei arbed gan David Marshall.

Torres gipiodd y tri phwynt i’r ymwelwyr dri munud yn ddiweddarach gyda Schürrle’n gyfrifol am y gwaith creu y tro hwn.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn gorffen y tymor ar waelod y tabl gyda 30 pwynt yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair, ac yn dychwelyd i’r Bencampwriaeth gyda Fulham a Norwich.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Fabio, John, Mutch, Caulker, Turner, Daehli (Cowie 67′), Whittingham, Campbell (James 89′), Gunnarsson, Bellamy (Healey 76′)

Gôl: Bellamy 15’

Cerdyn Melyn: Wittingham 51’

.

Chelsea

Tîm: Schwarzer, Azpilicueta, Cole, Matic, Ivanovic, Kalas, Salah (Aké 79′), Mikel (Schürrle 66′), Torres, Oscar, Hazard (Swift 89′)

Goliau: Schürrle 72’, Torres 75’

Cardiau Melyn: Mikel 33’, Matic 88’

.

Torf: 27,716