Sunderland 1–3 Abertawe

Daeth tymor Abertawe i ben ar nodyn cadarnhaol wrth iddynt drechu Sunderland oddi cartref yn y Stadium of Light brynhawn Sul.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i’r Elyrch ar adegau ond gorffennodd gyda buddugoliaeth wrth iddynt orffen y tymor yn ddeuddegfed, gyda dim ond pedwar pwynt yn llai na’u cyfanswm y tymor diwethaf.

Dechreuodd yr ymwelwyr o Gymru ar dân gyda dwy gôl yn y chwarter awr cyntaf. Rhwydodd Nathan Dyer y gyntaf yn dilyn pas dreiddgar Wayne Routledge cyn i Marvin Emnes ddyblu’r fantais gyda gôl daclus yn dilyn pas Wilfred Bony.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd Sunderland yn ôl yn y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi i Adam Johnson greu gôl i gyn chwaraewr yr Elyrch, Fabio Borini.

Bu bron i Johnson unioni pethau’n fuan wedyn ond roedd Abertawe yn ôl ddwy gôl ar y blaen wedi i Emnes a Bony gyfuno eto i greu’r drydedd. Bony sgoriodd y tro hwn yn dilyn pas Emnes, ei bumed gôl ar hugain o’r tymor.

Roedd honno’n ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Cymry, ac wedi tair buddugoliaeth yn eu pedair gêm olaf maent yn gorffen yn ddeuddegfed yn y tabl.

.

Sunderland

Tîm: Mannone, Vergini, Bardsley (Celustka 64′), Bridcutt, O’Shea (Altidore 84′), Brown, Johnson, Larsson (Ba 71′), Wickham, Colback, Borini

Gôl: Borini 50’

Cardiau Melyn: Borini 83’, Bridcutt 85’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Tiendalli (Davies 75′), Taylor, Fulton (Britton 73′), Amat, Bartley, Dyer, Shelvey, Bony, Emnes (De Guzmán 55′), Routledge

Goliau: Dyer 7’, Emnes 14’, Bony 54’

Cardiau Melyn: Fulton 20’, Emnes 55’, Amat 69’

.

Torf: 45,580