Bydd cyn fachwr Cymru, Huw Bennett yn cychwyn gweithio i Undeb Rygbi Cymru yfory fel hyfforddwr cynorthwyol cryfder a chyflyriad y tîm cenedlaethol.
Mae Huw Bennett wedi chwarae 51 gwaith dros ei wlad gan gymeryd rhan mewn tair gornest Cwpan y Byd ac wedi ennill dwy gamp lawn a phedair pencampwriaeth cyngrhair.
Dywedodd Pennaeth Perfformiad Corfforol yr Undeb, Adam Beard mai dyma’r union brofiad arweiniodd at ei benodi.
“Rydw’i wrth fy modd yn penodi Huw, sydd gan gyfoeth o brofiad rygbi yn ogystal â gwybodaeth unigrwy am gyflyru ac angerdd.
“Bydd ei wybodaeth am yr hyn sydd ei angen i berfformio ar y lefel uchaf yn tu hwnt o ddefnyddiol wrth i ni barhau efo’n paratoadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2015,” meddai.