Heddiw, mae gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 wedi cyflwyno adnodd sylwadau newydd i’r wefan.

Bydd darllenwyr bellach yn gallu gadael eu sylwadau ar straeon gan ddefnyddio system ‘Disqus’ sy’n cael ei ddefnyddio’n eang gan flogiau a gwefannau newyddion.

Bwriad symud at system sylwadau newydd yn ôl Golwg360 ydy cynnig mwy o gyfleoedd rhyngweithiol i ddarllenwyr, yn ogystal â lleihau camddefnydd o’r adnodd.

“Rydym wedi bod yn cynllunio trosglwyddo i system sylwadau newydd ers peth amser, ac yn falch iawn i allu gwneud hynny rŵan” meddai Prif Weithredwr Golwg360, Owain Schiavone.

“Fel mae pawb yn gwybod, mae technoleg yn newid yn gyflym a disgwyliadau pobol yn codi gyda hynny. Roedd yr hen system sylwadau yn gwneud y tro dair blynedd nôl, ond bellach mae pobol yn disgwyl rhywbeth mwy rhyngweithiol.”

Rhyngweithiol

Mae system Disqus yn caniatáu i bobol adael sylwadau gan ddefnyddio eu proffiliau Twitter, Facebook a Google+, gan rannu eu sylwadau ar y cyfryngau hynny yn ogystal. Mae hefyd modd i unrhyw un greu cyfrif Disqus o’r newydd yn rhwydd a chyflym iawn er mwyn ymuno a’r drafodaeth.

“Mae pobol yn hoffi cysylltu eu cyfrifon ar-lein, a bydd y system newydd yn galluogi i drafodaethau am straeon Golwg360 ymestyn yn naturiol i gyfryngau cymdeithasol eraill” meddai Owain Schiavone.

“Rydan ni’n annog pobol i drafod y newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg ar ba bynnag lwyfan, ac yn awyddus i’w gwneud mor rhwydd â phosib i bobol wneud hynny. Ymysg yr elfennau newydd eraill, mae modd i bobol gytuno neu anghytuno gyda sylwadau unigol mewn ffordd debyg i sut y byddech chi’n ‘hoffi’ rhywbeth ar Facebook, ac ymateb yn uniongyrchol i sylw unigol.”

Cyfieithu Disqus

Mae modd i Golwg360 ddefnyddio’r system newydd gan fod perchnogion Disqus wedi caniatáu i’w hadnodd gael ei gyfieithu i’r Gymraeg. Yn ogystal ag aelodau o dîm Golwg360, mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu at y cyfieithiad Cymraeg dros y misoedd diwethaf.

“Rydan ni’n weddol hapus gyda’r fersiwn Gymraeg o Disqus, er bod ambell beth fel toeon bach yn achosi dryswch i’r system! Mae’n siŵr y bydd ambell welliant i’w wneud i’r cyfieithiad gydag amser, a gobeithio bydd y defnyddwyr yn deall hynny ac yn barod i helpu trwy dynnu sylw at unrhyw wallau.”

Er bod angen ‘mewngofnodi’ i bob pwrpas er mwyn gadael sylw am y tro cyntaf dan y drefn newydd, y gobaith ydy bydd modd i bobol adael sylwadau’n gynt nag o dan yr hen drefn.

“Mae’n bwysig i bobol allu ymuno â’r drafodaeth yn gyflym, a bydd y system newydd yn cyflymu’r drafodaeth gobeithio. Bydd sylwadau’n mynd yn fyw yn syth, ond bydd modd i bobol dynnu sylw golygyddion at sylwadau amhriodol trwy glicio’r faner sy’n ymddangos wrth ochr pob sylw.”

Gallwch ddarllen mwy am y system sylwadau yng nghanllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg 360’.