Bydd staff gofal Gwalia, corff sy’n gweithredu un o’r gwasanaethau gofal a chymorth mwyaf yng Nghymru, yn streicio dros gyflog a thoriadau swyddi heno.

Bydd aelodau undeb Unsain y corff gofal yn streicio am 24 awr o 7 yh fel rhan o ymgyrch i gadw telerau ac amodau staff rhag cael eu newid.

Mae’r newidiadau mae rheolwyr wedi eu cynnig i’r telerau ac amodau yn cynnwys toriad sylweddol mewn cyflogau, newid yn nyletswyddau staff a disgwyliad y bydd staff ar gael i weithio mewn unrhyw weithle yn yr ardal ar unrhyw adeg.

Mae Unsain wedi dweud nad oes ganddyn nhw ddewis ond streicio gan eu bod nhw wedi ceisio cynnal trafodaethau gyda rheolwyr Gwalia am y mater sawl gwaith.

Dywedodd Lynne Hackett, trefnydd rhanbarthol Unsain, y byddai’r undeb yn cefnogi’r gweithwyr – gyda llawer ohonynt yn ferched sy’n derbyn cyflog isel – bob cam o’r ffordd.

Meddai Lynne Hackett: “Mae cynlluniau Gwalia yn cyflwyno dyfodol gwenwynig dros ansawdd y gwasanaethau y maent yn honni eu bod am ei gyflawni.

“Mae angen i Gwalia ailystyried ar frys ac rwy’n gobeithio y bydd y streic yn dangos bod yn rhaid iddyn nhw ailgynllunio.”