Mae Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2014 newydd gael ei chyhoeddi – ac fe fydd cyfle i chi ddewis eich hoff gyfrol chi yn y Gymraeg drwy bleidleisio ar golwg360!

Naw llyfr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer – tri llyfr ffuglen, tair cyfrol o farddoniaeth a thri llyfr Ffeithiol-Greadigol – gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 10 Gorffennaf yn Galeri, Caernarfon.

Cafodd y cyhoeddiad o ba lyfrau Cymraeg a Saesneg sydd wedi cyrraedd y rhestrau byr ei ddarlledu dros fideo gan y gyflwynwraig Lisa Gwilym yng nghwmni dau o’r beirniaid, Gareth Miles a Nadia Kamil.

Gallwch wylio’r fideo yma:

Felly dyma’r naw sydd wedi cyrraedd y rhestr fer o lyfrau Cymraeg ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2014:

Barddoniaeth – Rhwng y Llinellau, Christine James; Trwy Ddyddiau Gwydr, Sian Northey; Lôn Fain, Dafydd John Pritchard

Ffuglen – Dewis, Ioan Kidd; Paris, Wiliam Owen Roberts; Eneidiau, Aled Jones Williams

Ffeithiol Greadigol – Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, Alan Llwyd; Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985, Derec Llwyd Morgan; Ffarwel i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T. H. Parry-Williams, Angharad Price

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, gyda’r prif enillydd hefyd yn derbyn gwobr ychwanegol o £6,000.

Beirniaid y llyfrau Cymraeg fydd yr awdur ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2008, Gareth Miles, y bardd Eurig Salisbury, a’r awdur a’r blogiwr Lowri Cooke.

Ar y panel Saesneg mae’r darlithydd Andrew Webb, yr awdur a’r newyddiadurwr Jasper Rees, a’r comedïwr Nadia Kamil.

Ac fe allwch chi nawr ddewis eich ffefryn yng nghategori’r llyfrau Cymraeg drwy bleidleisio ym mhôl piniwn Barn y Bobl yma’n arbennig ar golwg360.


Dyma restr fer categori’r llyfrau Saesneg:

BarddoniaethPink Mist, Owen Sheers; The Shape of a Forest, Jemma L. King; Barkin!, Mike Jenkins

FfuglenThe Rice Paper Diaries, Francesca Rhydderch; The Drive, Tyler Keevil; Clever Girl, Tessa Hadley

Ffeithiol GreadigolR. S. Thomas: Serial Obsessive, M. Wynne Thomas; “And Neither Have I Wings To Fly”, Thelma Wheatley; Rhys Davies: A Writer’s Life, Meic Stephens