Ysbyty Maelor Wrecsam
“Does dim esgus” dros beidio â darparu S4C a sianeli Cymreig eraill i gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ôl y gwleidydd Llŷr Huws Gruffudd.

Ar hyn o bryd mae cleifion wedi eu tiwnio mewn i Channel 4, BBC North West [Lloegr] ac ITV Granada.

Mae’n debyg nad yw Ysbyty Maelor yn gallu derbyn sianeli o’r mast ym Mrychdyn ac yn cael ei holl deledu o fast Winter Hill ger Bolton.

Yn dilyn pwysau gan yr Aelod Cynulliad a Chomisiynydd y Gymraeg mae rheolwyr yr ysbyty wedi addo ‘penodi partner masnachol arbenigol’ i weld beth fyddai cost darparu sianeli Cymraeg a Chymreig i’r cleifion.

‘Unwaith bydd y wybodaeth gennym, a’r opsiynau posibl wedi cael eu hamlygu, byddwn yn gallu cytuno ar gynllun i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn’ meddai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn llythyr at swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sydd wedi gofyn am gael gwybod y diweddaraf am y sefyllfa ym mis Gorffennaf.

Fe gododd y mater wedi i un o etholwyr Aelod Cynulliad y Gogledd Plaid Cymru dderbyn cwyno.

“Mae nifer fawr o Gymry Cymraeg yn defnyddio Ysbyty Wrecsam Maelor a does dim esgus i beidio darparu gwasanaethau teledu Cymraeg a Chymreig yno,” meddai Llŷr Huws Gruffudd.

“Roedd yn amlwg o’r ymateb y ces i nad oes polisi cyson ar draws ysbytai’r Gogledd gan y Bwrdd Iechyd.

“Dw i’n falch fod y Comisiynydd wedi ymyrryd yn dilyn y gwyn a dderbyniais gan etholwr a’r gobaith nawr yw y bydd y ddarpariaeth newydd sydd ar y gweill yn golygu y bydd gwasanaethau teledu Cymreig a Chymraeg ar gael i bawb.”