Arwel Gruffydd
Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi dechrau apêl am arian i gefnogi ei gwaith dros y cyfnod nesaf.
Yn ystod perfformiadau o ddrama newydd Caryl Lewis, Y Negesydd, yn Theatr Felin fach yng Ngheredigion, roedd posteri yn gofyn am “rodd pen-blwydd” o £5 neu fwy, ar achlysur dengmlwyddiant y cwmni.
Yn ôl y Cyfarwyddwr Artistig, mae angen yr apêl, ‘Dathlu’r Deg 10 – Cyfrannwch i Sicrhau Dyfodol Theatr Genedlaethol Cymru’, er mwyn “cynnal y lefel o weithgaredd” y Theatr yn y dyfodol gan ei bod yn wynebu gostyngiad “mewn termau real” yn yr arian cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf.
“Elusen ydi Theatr Genedlaethol Cymru fel pob cwmni theatr arall – mi ydan ni’n ddibynnol ar nawdd,” meddai Arwel Gruffydd wrth gylchgrawn Golwg. “Dyw theatr drwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn gallu bodoli ar y farchnad rydd.
“Tra bod arian cyhoeddus yn mynd yn brinnach ac yn brinnach a ninnau’n ceisio’n gorau i beidio â chodi pris tocynnau, mi ydan ni mewn ffordd yn apelio at y rheiny sy’n gallu ein helpu ni i wneud hynny os ydyn nhw’n dymuno.”
Dim cynnydd ers saith mlynedd
Eleni, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cael £1,052,942 o gyllid refeniw gan Gyngor y Celfyddydau. Dyw’r Theatr ddim wedi cael cynnydd ers saith mlynedd.
“Mewn termau real, mae hynny yn ostyngiad,” meddai Arwel Gruffydd, “ac r’yn ni wedi bod yn wynebu’r gostyngiad hwnnw flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn…
Yr unig beth ydan ni’n ei wneud ydi sylweddoli bod cynnal y lefel gweithgaredd mae pobol wedi’i fwynhau dros y blynyddoedd diwetha’ yn mynd yn anoddach ac anoddach bob blwyddyn.”
Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.