Rolf Harris adeg gwrandawiad cynharach (Llun: PA)
Fe fydd achos yr erlyniad yn dechrau heddiw yn erbyn y diddanwr o dras Cymreig, Rolf Harris.
Mae wedi pledio’n ddieuog i 12 o gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar bedair merch.
Yr honiad yw fod hynny wedi digwydd rhwng 1968 ac 1986 – roedd y ferch ieuenga’ tua saith neu wyth oed, a’r hyna’ yn 19.
Mae Rolf Harris wedi pledio’n ddieuog i’r holl gyhuddiadau.
Roedd ei wraig, Alwen, yn Llys y Goron Southwark ddoe wrth i aelodau’r rheithgor gael eu dewis.
Fe rybuddiodd y Barnwr y rheithgor i anwybyddu unrhyw sylw o’r tu allan.
Cefndir
Roedd tad a mam Rolf Harris wedi mudo o Gaerdydd i Awstralia.
Roedd yntau’n nofiwr llwyddiannus cyn dod yn enwog am gyflwyno rhaglenni teledu, yn benna’ yng ngwledydd Prydain.