Mae’n parhau’n wythnos brysur i gyn-aelod y Super Furry Animlas, Gruff Rhys, wrth iddo ryddhau deunydd diweddaraf American Interior, sef llyfr am y prosiect.

Cafodd albwm American Interior ei ryddhau ar ddechrau’r wythnos, a bydd y ffilm ddogfen arbennig hefyd ar gael i’w wylio o fory ymlaen i gwblhau wythnos o ddeunydd newydd gan yr artist.

A heddiw fe ryddhawyd y llyfr, fel ail ran allbwn creadigol Gruff Rhys ar ôl iddo fod ar daith yn America yn olrhain hen berthynas iddo.

Yn 1792 fe aeth John Evans draw i America i geisio chwilio am lwyth brodorol honedig oedd yn medru siarad Cymraeg – ar ôl teithiau chwedlonol Madog.

Daeth John Evans yn gyfeillgar â llwythau Indiaid brodorol, cipio Gogledd Dakota oddi wrth y Canadiaid a chreu’r map fyddai’n arwain at ddarganfod y Môr Tawel, cyn marw ag yntau heb gyrraedd 30 oed.

Ac wrth deithio’r wlad yn 2012 yn chwarae cerddoriaeth fe fu Gruff Rhys yn archwilio byd y chwedlau amdano a’u perthynas â hanes.

Gallwch wrando ar ddarlleniad o American Interior gan Gruff Rhys yma:

Yn ogystal â’r albwm, llyfr a ffilm mae ap o American Interior eisoes ar gael i’w lawrlwytho ar iOS, Google Play a Nook, ac ar Android yn fuan.

Dyma gân ‘American Interior’ oddi ar yr albwm: