Fe fydd S4C yn cyd-weithio gyda sianel JTV yn Ne Korea i greu tair rhaglen ddogfen newydd sbon.
Bydd y rhaglen gyntaf yn olrhain hanes y cenhadwr Robert Jermain Thomas, sydd yn cael ei gyfrif fel y gŵr a gyflwynodd Gristnogaeth i Dde Corea.
A bydd y ddwy raglen arall yn archwilio cysylltiad y Cymry gyda brwydr Corea.
Yn ôl Comisiynydd Cynnwys S4C, mae’r cydweithio rhwng Rondo Media, Awen Media a sianel JTV yn “torri cwys newydd” a fydd yn “cynnig rhywbeth arbennig ar sgrin”.
Partneriaeth
“Rydym yn hynod gyffrous gyda’r bartneriaeth newydd, ac yn teimlo ein bod yn torri cwys newydd. Canlyniad hyn fydd cynyrchiadau cynhyrfus ar ein cyfer ni ein hunain, ac ar gyfer ein partneriaid yn Ne Corea,” meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C.
“Mae S4C wedi bod yn awyddus i archwilio prosiectau eraill yn dilyn llwyddiant diweddar rhaglenni fel Y Gwyll, ac rydym ni’n credu y gallwn greu rhywbeth arbennig ar sgrin.”
Pontio
Mae’r cydweithio yn dilyn trafodaethau gyda’r cwmni The Bridge – cwmni annibynnol ac arloesol sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia.
Meddai Amanda Groom, Rheolwr Gyfarwyddwr The Bridge: “Mae’r Bridge wrth eu boddau i gael dod a chynyrchiadau arloesol a chynhyrfus rhwng dau gynhyrchydd Cymreig, Rondo Media ac Awen Media a JTV, y cynhyrchwyr o Dde Corea at ei gilydd.
“Canlyniad y partneriaethau yma yw bod mwy o storiau Cymreig yn cael eu darlledu i gynulleidfa S4C.”