Kizzy Crawford
Geraint Jarman, Candelas, Gai Toms a Kizzy Crawford sydd ymhlith yr artistiaid Cymraeg fydd yn chwarae ar Lwyfan Cymru yng Ngŵyl Rhif 6 eleni.

Mae trefnwyr yr ŵyl wedi cydweithio gydag arbenigwyr ar y Sin Roc Gymreig, Huw Stephens a John Rostron o Ŵyl Sŵn Caerdydd, sy’n credu fod yr arlwy yn arddangos rhai o “fandiau gorau Cymru”.

Ymysg yr uchafbwyntiau nos Wener fydd y gantores a’r gyflwynwraig Gwenno a’r canwr gwerin Chris Jones, Candelas, Gai Toms, Y Pencadlys, Kizzy Crawford a’r rapiwr Ed Holden sydd newydd ddychwelyd o’i daith yn Efrog Newydd.

Ac uchafbwynt yr ŵyl, fel y llynedd, fydd y nos Sul pan fydd rhai o brif artistiaid Cymru ar y llwyfan dan gyfarwyddwyd Nyth Gwydir. Maen nhw’n cynnwys Casi, sef enillydd Cân y Flwyddyn BBC Cymru, Geraint Jarman a’i fand, Yr Ods, Cian Ciarán o’r Super Furrys, Sŵnami, Plyci a DJs Nyth.

Mae’r cerddorion yn ymuno hefo Beck, London Grammar, Martha & the Vandellas a Chôr y Brythoniaid sydd ymysg yr enwau eraill sydd wedi cael eu cadarnhau gan drefnwyr yr ŵyl.

‘Anhygoel’

“Dwi wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r ŵyl eleni gyda’r fath leinyp anhygoel o gerddorion Cymreig,” meddai Huw Stephens o Sŵn.

“Mae Geraint Jarman wedi bod yn ddylanwad mawr ers degawdau ac yn ysbrydoliaeth i sawl cenhedlaeth; mae o’n fardd, mae o’n chwalu ffiniau, mae o’n hybu sin roc y to ifanc.

“A dyna’r Ods, mae’r rhain wedi gigio sawl gwaith i Sŵn ac wedi hen ennill eu plwyf fel un o fandiau ifanc gorau Cymru.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 5-7 Medi ym mhentref Portmeirion.