Tîm Glan Clwyd
Enw
: Tîm Pêl-droed dan-18 Ysgol Glan Clwyd

Cae: Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy

Lliwiau: Melyn a Du

Hyfforddwyr: Arwyn Jones & Dylan Jones

Capten: Gareth Royles

Os ydych chi’n ofergoelus a bod gan eich tîm chi ffeinal fawr ar y gweill, anghofiwch y trôns lwcus – achos mae Tîm yr Wythnos golwg360 ar rediad o bump allan o bump yn y cwpanau ar ôl buddugoliaeth Cymry Caerdydd brynhawn Sul!

Felly draw a ni’r wythnos hon i weld a all tîm pêl-droed chweched Ysgol Glan Clwyd fanteisio ar ychydig o’r lwc dda wrth iddyn nhw baratoi am rownd derfynol dan-18 Cwpan Ysgolion Cymru.

Eu gwrthwynebwyr yn y ffeinal brynhawn Sul fydd Ysgol Olchfa o Abertawe, sydd yn wynebu taith tipyn hirach na chriw Glan Clwyd gan fod y gêm yn cael ei chwarae ar gae Y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt.

Llwyddodd Ysgol Glan Clwyd i drechu Ysgol Syr Hugh Owen yn y rownd gynderfynol o 3-1, gyda’r Olchfa’n trechu Treorci 1-0 er mwyn sicrhau’u lle hwythau yn y ffeinal.

Cael a chael oedd hi i Glan Clwyd yn nwy rownd gyntaf y Gwpan, gyda buddugoliaethau dros Ysgol Alun ac yna Ysgol Penarlâg ar giciau o’r smotyn yn unig.

Ond yna fe ddangoson nhw eu bod yn un o dimau cryfa’r gystadleuaeth, gan drechu dwy ysgol o Fôn, David Hughes (4-2) a Chaergybi (2-0) yn eu gemau nesaf.

Dyma fideo o Dîm yr Wythnos golwg360 yn cyflwyno’i hunain cyn y gêm fawr:

Mae athro a hyfforddwr tîm Glan Clwyd, Arwyn Jones, yn mynnu y bydd y pwysau ar eu gwrthwynebwyr ar ôl i’w criw nhw o fechgyn serennu’r llynedd.

“Mae’n debyg fod y pwysau ar yr Olchfa gan mai nhw wnaeth ennill y gystadleuaeth dan-16 y llynedd, a nifer ohonyn nhw yn rhan o’u tîm dan-18 nhw eleni felly,” meddai Arwyn Jones.

“Ond mae’n tîm ni dros y flwyddyn wedi dod yn uned agos iawn, gyda’r bechgyn i gyd yn chwarae dros ei gilydd.

“Mae gan ein hogiau ni hunanhyder a hunan gred, ac maen nhw wedi curo nifer o dimau anodd i gyrraedd yma, felly fe fydd hi yn sialens anodd i’r Olchfa. Mi fydd hi yn gêm hynod o ddiddorol!”

Bydd y gic gyntaf rhwng tîm dan-18 Glan Clwyd a’r Olchfa ddydd Sul 11 Mai am 2.30yp ar Park Hall, cae Y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt.

Carfan Ysgol Glan Clwyd: Robbie Rimmington, Sean James, Matthew Evans, Garin Roberts, Gruff Roberts, Josh Morris, Ynyr Clwyd, Sion Brisbane, Aled Evans, Tomos Jones, Gareth Royles, Rhys Jones, Ifan Jones, Llion Williams, Deiniol Gregory Bower, Lewys Jones.