Mi wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru ennill 4-0 neithiwr yn erbyn merched Montenegro yn Stadiwm Nantporth, Bangor.

Cymru oedd y ffefrynau clir i ennill y gêm yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2015 i ferched ar ôl curo Montenegro 3-0 oddi cartref.

Sgoriodd y Cymry’r gôl gyntaf wedi 12 munud pan fethodd gôl-geidwad Montenegro ddal cic gosb gan Jess Fishlock, ac fe sgoriodd Sarah Wiltshire yn rhwydd.  Dyma’r dechrau yr oedd y rheolwr Jarmo Matikainen yn ei obeithio amdano.

Jess Fishlock sgoriodd yr ail gôl dwy funud yn ddiweddarach.  Yna ar ôl 23 o funudau fe sgoriodd Fishlock ei hail gôl.  Yr oedd merched Cymru yn rheoli’r gêm yn llwyr yn erbyn hyn.  Fe fu’n rhaid i gôl geidwad Montenegro weithio’n galed wrth i Sarah Wiltshire, Natasha Harding a Hayley Ladd gael ergydion ar y gôl.

Ar hanner amser yr oedd Cymru’n ennill 3-0 ac er i Montenegro newid y gôl-geidwad ar gyfer yr ail hanner fe fethodd Iva Milai ag atal Fishlock sgorio ei thrydedd gôl o’r noson.  Fe ddaeth chwaraewr canol cae Michelle Green i’r cae fel eilydd yn lle Angharad James ar ôl 79 munud, ac ar ôl 86 munud fe adawodd Fishlock y cae i gymeradwyaeth frwd yn dilyn ei pherfformiad gwych.  Nadia Lawrence ddaeth i’r cae yn ei lle.

Yr oedd y rheolwr Matikanien yn hapus iawn gyda’r perfformiad sy’n sicrhau bod Cymru yn parhau i ddal yr ail safle yn y grŵp.  Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Twrci yn Hwlffordd ym mis Mehefin cyn teithio i Belarws.

Yn ystod hanner amser fe wnaeth llywydd pêl-droed Cymru Trefor Lloyd Hughes gyflwyno cap aur i’r cyn chwaraewr rhyngwladol Cheryl Foster fel cydnabyddiaeth am ymddangos 63 o weithiau dros ei gwlad wrth chwarae i Fangor a Lerpwl.  Mae’r Undeb am ei llongyfarch a diolch iddi am ei gwasanaeth.