Mae angen gwneud mwy i ddarbwyllo pobl am fanteision ffracio medd Arglwyddi
Mae WWF Cymru wedi rhybuddio bod angen system ynni carbon isel effeithlon ar Gymru, yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan Bwyllgor Materion Economaidd Tŷ’r Arglwyddi.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar effaith economaidd bosib nwy siâl.
Yn ôl y pwyllgor, fe ddylai datblygu adnoddau nwy siâl yn y DU fod yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau swyddi a gostwng allyriadau. Mae hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Prydain wneud mwy i ddarbwyllo’r cyhoedd ynglŷn â manteision ffracio, a bwrw mlaen gyda’r gwaith archwilio am nwy siâl.
Ond yn ôl WWF Cymru, mae’r Arglwyddi wedi “anwybyddu’r dadansoddwyr niferus sydd wedi dweud bod nwy siâl yn y DU yn annhebygol o gael llawer iawn o effaith ar naill ai prisiau nwy nac ar fynediad cynyddol y DU i fewnforion nwy”.
‘Dibyniaeth ar danwydd ffosil’
Dywedodd Swyddog Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru, Jessica McQuade: “Os ydyn ni wirioneddol am leihau niwed y DU i sioc prisiau tanwydd ffosil i’r DU yn y dyfodol, rhaid i ni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil yn y lle cyntaf.”
Ychwanegodd fod y fath gamau’n hanfodol er mwyn “mynd i’r afael â’r nifer uchel o bobol sy’n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru”.
Yn ôl WWF, mae ymchwil gan y Grid Cenedlaethol yn dangos y byddai system ynni carbon isel yn lleihau defnydd y DU o nwy o 40-50% erbyn 2030.
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd eisoes wedi dweud y gallai’r DU arbed rhwng £25 biliwn a £45 biliwn trwy symud i mewn i sector carbon isel erbyn 2030, yn hytrach na dibynnu ar nwy.