Mae Barclays wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared a 7,000 o swyddi o’r adran fuddsoddi erbyn 2016.
Mae’r banc eisoes wedi cyhoeddi y bydd 12,000 o swyddi’n diflannu ar draws y grŵp eleni, ond mae’r ffigwr wedi codi i 14,000 o ganlyniad i’r newidiadau i’r adran fuddsoddi heddiw.
Mae’n golygu bod cyfanswm y diswyddiadau erbyn 2016 yn 19,000. Bydd hanner y diswyddiadau yma ym Mhrydain.
Daw’r cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl i Barclays gyhoeddi bod enillion yr adran yn y chwarter cyntaf wedi gostwng 49%, gan olygu bod elw’r grŵp wedi gostwng 5%.