Mae dyn 27 oed o Gasnewydd, a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dynes 21 oed, wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio.

Cafwyd hyd i gorff Jessica Watkins, o Gaerllion, mewn eiddo yn Bryn Bevan, Casnewydd ddydd Llun.

Fe fydd y dyn yn mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd yfory.