Traeth Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin
Mae 65 o draethau Cymru wedi ennill gwobrau rhyngwladol a’u gosod ymhlith y goreuon yn y byd.

Mae 34 o’r traethau wedi ennill  statws Baner Las – sy’n cael ei roi i’r traethau gorau am safon y dŵr, glendid, diogelwch a chyfleusterau – a 31 o draethau wedi llwyddo i ennill Gwobr Arfordir Gwyrdd – am eu hamgylchedd naturiol.

Mae Gwobr y Faner Las yn eiddo i sefydliad y Foundation for Environmental Education (FEE), sy’n cydnabod traethau a marinas ym mhob cwr o’r byd am safon y dŵr, glendid, diogelwch a’u cyfleusterau.

Traethau Sir Benfro sydd ar frig y rhestr unwaith eto, gan ennill 10 Baner Las, yna Gwynedd 8, Ynys Môn 6, Ceredigion 5, Abertawe 4, Pen-y-bont ar Ogwr 2, a Sir Gaerfyrddin, 1. Ymhlith enillwyr y Faner Las mae 3 gwobr newydd sbon ar gyfer 2014- traethau Aberdaron a Bermo yng Ngwynedd a Chilborth yng Ngheredigion.

Mae traethau Sir Benfro wedi derbyn 12 Gwobr Arfordir Gwyrdd eleni. Mae Ynys Môn yn ail agos gydag 11, Gwynedd gyda 4, Ceredigion gyda 3 a Sir Ddinbych gydag 1.

Rhan greiddiol o’r economi’

Dywedodd Andy Middleton, Aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae ein harfordir gwych ni’n rhan greiddiol o’n heconomi. Mae’n lle y mae llawer ohonon ni’n mwynhau ymweld ag o ac yn hafan i fywyd gwyllt.

“Rydyn ni’n hynod falch bod y gwelliant parhaus i ansawdd traethau Cymru’n cael ei gydnabod gan y Gwobrau Arfordirol, gan ddangos bod cymaint o’n dyfroedd ymdrochi ni’n cyrraedd y safonau newydd ac uwch ar gyfer glendid.”

Fe fydd y seremoni wobrwyo yn cael ei gynnal gan Cadwch Gymru’n Daclus yng Nghlwb Hwylio Ceinewydd yng Ngheredigion heddiw.