Porth Eirias, Bae Colwyn
Mae’r cogydd Bryn Williams gam yn nes at agor ei fwyty newydd ym Mae Colwyn ar ôl i Gyngor Conwy gadarnhau ei fod wedi arwyddo prydles y bistro ym Mhorth Eirias.
Roedd disgwyl i fwyty’r Cymro agor ym mis Tachwedd y llynedd ond fe newidiodd hynny i fis Ionawr – ac yn ôl y cyngor bu oedi pellach oherwydd “gwaith papur a materion cyfreithiol”.
Dyma fydd y bwyty cyntaf i Bryn Williams, sy’n wreiddiol o Ddinbych, ei agor yng Nghymru yn dilyn ei lwyddiant ar y rhaglen deledu Great British Menu yn 2006.
Mae llefarydd ar ran y cyngor eisoes wedi cadarnhau y bydd y bwyty yn agor yn yr hydref.
‘Rhwystredig’
Dywedodd Arweinydd y cyngor, Dilwyn Roberts: “Cymerodd y broses gyfreithiol fwy o amser nag y rhagwelwyd gan yr un ohonom ac mae’r oedi wedi bod yn rhwystredig i bawb ar adegau.
“Gan ganolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol, gall y gwaith ddechrau ar osod offer yn yr adeilad i baratoi ar gyfer dyfodiad tîm Bryn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”
Dywedodd llefarydd ar ran Bryn Williams: “Nid oedd unrhyw amheuaeth ynghylch ein penderfyniad i ddod i Gonwy; rydym wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac arian yn ystod y deuddeg mis diwethaf ar baratoadau a chynllunio’r prosiect hwn ac yn hyderus y bydd yn llwyddiant mawr.
“Rydym yn edrych ymlaen at greu cyflogaeth yn lleol a gweithio’n agos gydag adran lletygarwch ac arlwyo Coleg Llandrillo. Mae gennym lawer o waith o’n blaenau nawr ac yn sicr mae’n werth aros amdano pan fyddwn yn agor yn ddiweddarach eleni.”
Cafodd £3.7 miliwn ei fuddsoddi ym Mhorth Eirias, sydd, ar wahân i fod yn gartref i fwyty Bryn Williams, hefyd yn cynnwys canolfan chwaraeon dŵr newydd.