Dylan Thomas
Mi fydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Ysgol Haf Rhyngwladol i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas.

Cwrs preswyl dan arweiniad Cyfarwyddwr cwrs MA Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol, Menna Elfyn, yw’r Ysgol Haf a fydd yn cael ei gynnal ar gampws Prifysgol Llambed.

Bydd nifer o feirdd ac artistiaid Cymreig nodedig yn cymryd rhan, gan gynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke; y bardd Owen Sheers; y nofelydd Fflur Dafydd; yr awdur Horatio Clare a’r artist Iwan Bala a bydd ymweliadau â’r mannau yn ne-orllewin Cymru sy’n gysylltiedig â’r bardd.

Mae’r ysgol haf eisoes wedi ennyn diddordeb gan bobol o’r Unol Daleithiau ac mae’r trefnwyr yn annog trigolion lleol i ddod i ddysgu mwy am waith a bywyd Dylan Thomas.

Cysylltiadau

“Mae De-orllewin Cymru yn rhan annatod o fywyd a gwaith Dylan Thomas a gan fod y Brifysgol wedi’i gwreiddio yn yr un ardal, roedd y syniad o ddathlu canmlwyddiant y bardd gydag ysgol haf yn un cyffrous,” meddai’r trefnydd Menna Elfyn.

Ychwanegodd Dr Mirjam Plantinga, Deon Dyniaethau’r Brifysgol: “Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddathlu canmlwyddiant Dylan Thomas drwy drefnu Ysgol Haf Rhyngwladol sy’n cynnwys beirdd a chyfranogwyr gwadd o safon mor uchel.”

Bydd yr Ysgol Haf yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun, 25 Mai a dydd Sadwrn, 7 Mehefin. Am fwy o fanylion ewch i www.uwtsd.ac.uk/dylanthomas.