Cyffuriau
Mae plant mor ifanc â 10 oed wedi derbyn triniaeth am gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, yn ôl arolwg newydd.
Yn sgil hynny, mae elusennau yn galw am wella’r ddarpariaeth addysg ar gyffuriau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Dangosodd yr arolwg gan y Press Association mai drwy gael gafael ar gyffuriau neu alcohol gan eu rheini oedd hi fwyaf tebygol i blant ysgol gynradd gam-drin cyffuriau ac alcohol.
Roedd 59% o blant o dan 13 oed ym Mhrydain wedi derbyn triniaeth am gamddefnyddio canabis a thraean wedi cael eu trin ar ôl camddefnyddio alcohol.
‘Darpariaeth anghyson’
Yn ôl Andrew Brown, cyfarwyddwr rhaglenni gydag elusen Mentor UK sy’n gweithio i warchod pobol ifanc rhag camddefnyddio cyffuriau: “Mae’n hanfodol i wella’r addysg ar gyffuriau ac alcohol.
“Mae arolwg wedi dangos fod y ddarpariaeth yn anghyson, ac ar gyfartaledd mae ysgolion yn rhoi un neu ddwy wers y flwyddyn am y pwnc.
“Efallai bod hyn i’w weld yn ddigon i rai, ond mae tystiolaeth yn profi bod sesiynau cyson yn fwy tebygol o atal plant rhag gwneud niwed na fyddai sesiwn bob hyn a hyn.”
Oedrannau
Dyma oedrannau plant sydd wedi derbyn triniaeth mewn awdurdodau yng Nghymru rhwng 2011-2014:
Sir Fynwy – 10 oed
Caerffili – 11 oed
Blaenau Gwent – 11 oed
Sir Benfro – 12 oed
Powys – 12 oed
Sir Fflint – 14 oed
Pen-y-bont ar Ogwr – 15 oed
Rhondda Cynon Taf – 15 oed