Rhun ap Iorwerth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn  gofyn yn gyhoeddus am dystiolaeth ynglŷn â’i safbwynt ar gladdu gwastraff niwclear, yn dilyn pryderon diweddar ynglŷn â chael safle o’r fath yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol Alun Davies y gallai hyn arwain at newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru, sydd hyd yn hyn heb ddatgan safbwynt ar y mater.

Ond fe ddywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn y Siambr heddiw ei fod yn siomedig nad oedd y Llywodraeth wedi datgan safbwynt mwy pendant ar y mater.

Pythefnos yn ôl fe ddatgelodd golwg360 fod lleoliadau yng Nghymru, gan gynnwys Wylfa a Thrawsfynydd, yn cael eu hystyried ar gyfer claddfa i holl wastraff ymbelydrol Prydain.

Ers hynny mae cynghorwyr ac Aelodau Cynulliad wedi lleisio’u gwrthwynebiad gydag Aelodau Seneddol y ddwy ardal, Elfyn Llwyd ac Albert Owen, ymysg y diweddaraf i wrthwynebu’r syniad.

‘Ysgogi trafodaeth bwysig’

“Bydd yr alwad yma am dystiolaeth ar reolaeth ddiogel gwastraff ymbelydrol yn ysgogi trafodaeth bwysig ac fe fyddaf yn annog unrhyw un sydd â barn i gyfrannu i’r broses,” meddai Alun Davies.

“Unwaith y bydd yr alwad am dystiolaeth wedi’i gwblhau, fe fyddaf yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a oes angen adolygiad llawn o’r polisi.

“Bydd unrhyw adolygiad o’r fath yn cael ei wneud mewn modd agored a thryloyw ac yn cynnwys proses ymgynghori drwyadl.

“Hoffwn sicrhau pobl hyd yn oed os ydym ni’n penderfynu adolygu’n polisi ar gael gwared ar wastraff ymbelydrol, na fyddai hyn o reidrwydd yn golygu y bydd gwastraff ymbelydrol yn cael ei gladdu yng Nghymru neu unrhyw ran arall o’r DU.

“Bydd unrhyw safle gwaredu gwastraff yn y dyfodol yn dibynnu ar y gymuned fyddai’n ei chynnal yn cynnig ei hun yn wirfoddol.”

‘Tomen sbwriel’

Cafwyd croeso i’r cyhoeddiad gan Rhun ap Iorwerth heddiw, ond fe rybuddiodd yr Aelod Cynulliad hefyd y byddai trigolion Môn yn siomedig gyda’r safbwynt ‘niwtral’ presennol.

Ac fe wahoddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones i roi ei gefnogaeth lawn i ymgyrch i wrthwynebu mewnforio gwastraff niwclear i’r ynys.

“Ni chefais y gefnogaeth ddiamwys i’r ymgyrch yr oeddwn wedi ei ofyn amdano,” meddai Rhun ap Iorwerth. “Ond fe allwn ni’n awr geisio newid polisi’r llywodraeth, a byddaf yn parhau i bwyso i sicrhau na fydd Ynys Môn yn cael ei ddefnyddio fel tomen sbwriel ar gyfer mewnforio gwastraff ymbelydrol.”

Mae delio â gwastraff niwclear yn faes polisi sydd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, gan olygu y byddai angen eu caniatâd cyn i safle o’r fath gael ei hadeiladu yng Nghymru.

Safbwynt Llywodraeth Prydain ers 2008 i ddelio â gwastraff ymbelydrol yw i’w gladdu o dan ddaear.

Mae modd ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc canlynol.