Dylan Thomas
Mae llyfrau nodiadau, llawysgrifau a lluniau yn perthyn i Dylan Thomas wedi cyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol yn Abersytwyth ar fenthyg oddi wrth Brifysgol Buffalo yn Efrog Newydd.

Fe fu Dylan Thomas farw yn Efrog Newydd yn 1953.

Bydd y cyfan yn rhan o arddangosfa yn y llyfrgell i nodi canmlwyddiant geni’r bardd yn Abertawe.

Cafodd y llyfrau nodiadau eu hysgrifennu rhwng 1930 a 1934 ac mae’r deunyddiau i gyd yn dangos agweddau ar ei ddull o ysgrifennu a’i gymeriad yn ôl swyddogion y llyfrgell.

“Rydym wrth ei bodd ein bod wedi gallu croesawu’r eitemau yma yn ôl i Gymru ar gyfer y canmlwyddiant,” meddai’r Prif Weithredwr Aled Gruffydd Jones.

“Mae’r benthyciad yma yn ddarn olaf y jigsô fydd yn taflu goleuni ar fywyd cynnar Dylan a’i broses ysgrifennu.”