Marcelina Dabek a'i thelyn (Llun: Geraint Thomas/CGWM)
Mae telynores ifanc o Wlad Pwyl, nad oes ganddi delyn ei hun, wedi ennill y delyn Gymreig roddwyd yn wobr gan Dywysog Cymru i’r Ŵyl Delynau Ryngwladol yng Nghaernarfon.

Hyd yma, mae Marcelina Dabek, sy’n 11 oed, wedi bod dysgu canu ag ymarfer y delyn am hyd at deirawr bob dydd ond dydd Sul yn yr ysgol gynradd a’r ysgol gerdd yn Warsaw.

Doedd hi ddim ymhlith y goreuon yn y gystadleuaeth i delynorion dan 13 oed ond roedd ei pherfformiad yn y cylch cyntaf mor wych hyd nes i’r beirniaid benderfynu yn unfrydol mai hi oedd telynores mwyaf addawol yr ŵyl

Cafodd y delyn ei gwneud gan gwmni Telynau Teifi o Landysul a’i rhoi gan y Tywysog Charles yn wobr i’r telynor neu’r delynores ifanc mwyaf addawol yn yr ŵyl.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett, sydd ei hun yn delynores ac athrawes o fri, ei bod wrth ei bodd bod y delyn yn mynd i gerddor ifanc mor eithriadol yn enwedig gan nad oes ganddi delyn ei hun.

“Fe wnaeth Marcelina swyno’r gynulleidfa a’r beirniaid efo’i pherfformiad yn y cylch cyntaf,” meddai.

“Mae’n fy atgoffa o Catrin Finch yn ifanc gyda’i dull bywiog a rhwydd o chwarae, a phan ddywedais i wrthi ei bod wedi ennill y delyn doedd hi ddim yn fy nghoelio i ac fe wnaeth ei mam ddechrau crio!”

O Gaernarfon i Bankok

Mae Marcelina yn cytuno nad oedd hi’n coelio pan glywodd ei henw’n cael ei gyhoeddi a dywedodd ei mam Marika Gwaiazdowska bod gweld yr holl emosiwn ar wyneb ei merch yn fendigedig.

“Rwan bod ganddi ei thelyn ei hun, mi fydd hi’n gallu cynhesu ei bysedd ac ymarfer rhyw ychydig adref,” meddai.

Mae’r cysylltiadau brenhinol yn parhau beth bynnag.

Suninda Kitiyakara yw un o drefnwyr Gŵyl Delynau Ryngwladol Gwlad Tai yn flwyddyn nesaf, ac mae hefyd yn aelod o deulu brenhinol y wlad.

Mae mwynhau gwrando ar dalent Marcelina yng Nghaernarfon wedi gwneud cryn argraff arni hithau hefyd ac mae wedi estyn gwahoddiad iddi gystadlu yn yr Ŵyl yn Bankok.