Pat Jones a Carys Jones, arweinwyr Aelwyd Chwilog ger Pwllheli, yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes eleni.

Unigolion sydd wedi cyfrannu’ n sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru sy’n derbyn y tlws fydd yn cael ei chyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 2014.

Mae’r ddau enillydd wedi bod yn cynnal Aelwyd Chwilog, sydd hefo bron i 60 o aelodau ifanc, yn wythnosol ers dros 30 o flynyddoedd.

Fe gawson nhw wybod eu bod wedi ennill y wobr yn Eisteddfod Cylch Llŷn ac Eifionydd ar ddechrau mis Mawrth, wrth i’r gyflwynwraig Heledd Cynwal gyhoeddi eu henwau o’r llwyfan.

Anrhydedd

Yn ôl Pat Jones: “Mi gawsom ni dipyn o sioc clywed y cyhoeddiad o lwyfan yr Eisteddfod a deall ein bod wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes.

“Dydi rhywun ddim yn meddwl bod nhw’n haeddu’r fath beth. Rydyn ni’n dwy mor ddiolchgar i’r plant, y bobol ifanc a’i rhieni am fod mor driw dros y blynyddoedd.

Ychwanegodd Carys Jones: “Mae’n andros o anrhydedd i ni, ac yn fwy o anrhydedd fyth gan ei bod yn dod gan yr Urdd a’r bobol ifanc.

“Mae gen i gariad mawr at y mudiad a’i hegwyddorion. Mae’r Aelwyd yn Chwilog yn un teulu bach hapus ers y dechrau cyntaf un, ac mae hi’n bleser cydweithio efo Pat.

Mae Tlws John a Ceridwen Hughes yn cael ei rhoi gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu diweddar rieni a fu’n weithgar gyda gweithgareddau ieuenctid a bydd yn cael ei chyflwyno mewn seremoni ar 29 Mai.