Candelas (llun Heledd Roberts)
Mae BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau’r 12 artist Cymreig sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o brosiect cerddorol Gorwelion.

Prosiect dwy flynedd i geisio datblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol newydd yng Nghymru a thu hwnt i’r ffin yw Gorwelion, ac fe wnaeth 300 o artistiaid drio am le ar y cynllun.

Mi fydd yr artistiaid yn cael cynnig perfformio ar lwyfannau digwyddiadau ledled Cymru ac ar y radio ac yn elwa o gyswllt uniongyrchol gyda chynhyrchydd BBC sy’n goruchwylio’r cynllun.

Dywedodd Huw Stephens, cyflwynydd C2, BBC Radio Cymru a Radio 1:

“Mae’r prosiect newydd yma yn un cyffrous. Mae’r cyd-weithio’n mynd i fod o fudd i’r deuddeg artist amrywiol, byddan nhw i gyd yn cael profiadau a chyfleoedd gwych dros y flwyddyn nesa.

Enwau’r 12 artist a gafodd eu dewis yw:

  • Baby Queens, grŵp o Fae Caerdydd
  • Candelas, band roc o’r Bala a Llanuwchllyn
  • Casi, cantores o Eryri
  • Chris Jones, canwr o Gaernarfon
  • Climbing Trees, ensemble o Bontypridd
  • Gabrielle Murphy, o Ferthyr
  • Houdini Dax, grŵp o Gaerdydd
  • Kizzy Crawford, cantores o Ferthyr
  • Seazoo, grŵp o Wrecsam
  • Plu, grŵp gwerin o Fethel, Caernarfon
  • Sŵnami, grŵp o Ddolgellau
  • The People The Poet, band roc