Paul Gambaccini (llun cyhoeddusrwydd)
Mae cyflwynydd radio a gafodd ei arestio fel rhan o ymchwiliad i droseddau rhyw hanesyddol wedi cael ei ddewis i gyflwyno Gwobrau Ivor Novello eleni.

Cafodd Paul Gambaccini, sy’n arbenigwr ar hanes cerddoriaeth, ei arestio fis Hydref diwethaf gan Heddlu Llundain fel rhan o ymchwiliad Yewtree.

Mae’n parhau ar fechnïaeth yr heddlu, ac fe roddodd y gorau i gyflwyno’i raglen ar BBC Radio 2 ar ôl cael ei arestio.

Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yng ngwesty Grosvenor House yn Park Lane ar Fai 22. Ymhlith yr enwebiadau ar gyfer y gwobrau eleni mae John Newman, London Grammar, James Blake, Sam Smith ac Olly Murs.

Cyfansoddwyr caneuon sy’n dewis yr enillwyr.