Dylan Thomas - mae eleni'n ganmlwyddiant ei eni
Fe fydd darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn trafod bywyd Dylan Thomas ar raglen y BBC heno, gan roi cychwyn ar gyfres o raglenni sy’n dathlu canmlwyddiant geni’r bardd.

Mae’r Athro John Goodby yn gyfarwyddwr Prosiect Ymchwil Dylan Thomas yn Adran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg y brifysgol.

Heno, fe fydd yn cyfrannu at raglen Welsh Greats: Dylan Thomas, sy’n cael ei darlledu am 10.35yh ar BBC 1.

Yr actor Matthew Rhys fydd yn adrodd hanes bywyd y bardd, gan gynnwys ei berthynas â’i wraig Caitlin, a’i ddyddiau olaf yn Efrog Newydd.

Bydd yr Athro Goodby hefyd yn ymddangos ar raglen Radio Wales, All Things Considered nos Sul, Ebrill 27 am 9yh, lle bydd yn trafod dylanwad crefydd ar waith y bardd gyda’r cyflwynydd Roy Jenkins a’r Parchedig Leslie Griffiths.

Yn ogystal, fe fydd e’n cael sgwrs â Jamie Owen ar ei raglen ar Radio Wales am ganol dydd ddydd Sul, Mai 4, ac yn darllen traethawd ar yr un diwrnod ar Radio 3 (5.45yh) fel rhan o ddarllediadau’r orsaf ar gyfer Gŵyl Radio Talacharn rhwng Mai 2-5.

Mae llyfrau’r Athro Goodby am y bardd yn cynnwys Collected Poems (2014) a The Poetry of Dylan Thomas: Under the Spelling Wall (2013).

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ddatblygu ap a gwefan sy’n seiliedig ar waith Dylan Thomas.