Mae aelodau Cynulliad wedi galw am derfyn ar yr ansicrwydd tros ddyfodol adrannau damwain a brys yn ysbytai Cymru.

Mae angen i’r Llywodraeth a’r Byrddau Iechyd ddatrys pethau er mwyn gallu recriwtio digon o staff da ar gyfer y dyfodol, meddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym Mae Caerdydd.

Maen nhw hefyd eisiau ffyrdd mwy clir o fesur perfformiad yr adrannau ac am hyrwyddo ffyrdd eraill o ddelio gyda rhai achosion, gan gynnwys cyngor dros y ffôn a thriniaeth gan staff heblaw doctoriaid.

Ond, yn ôl adroddiad y Pwyllgor, does dim digon o dystiolaeth fod cleifion yn defnyddio’r adrannau am y rhesymau anghywir ac mae angen mwy o ymchwil i hynny.

‘Angen newid radical’

Penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymchwiliad yn dilyn rhybudd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod gwasanaethau gofal dirybudd yn gwaethygu mewn rhai rhannau o Gymru.

Un o’r prif bryderon o hyd yw’r amseroedd aros cyn y bydd cleifion yn cael triniaeth ond mae’r pwyllgor yn nodi bod peth gwelliant wedi bod ers yr adroddiad blaenorol.

Fe wnaeth y Pwyllgor 18 o argymhellion i gyd ac maen nhw hefyd yn cydnabod bod angen newid radical i roi trefn ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

‘Problem anferth’

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar, mae angen newid agwedd at y gwasanaethau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Rydym am weld terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch adrannau achosion iechyd brys,” meddai, “yn enwedig o ystyried yr her sy’n wynebu ein hysbytai o o ran recriwtio.”

Ond mae un o aelodau’r Pwyllgor wedi beirniadu’r Llywodraeth Lafur yn uniongyrchol gan ddweud bod yr “ad-drefnu parhaus” yn achosi dryswch ac ansicrwydd, nad yw pobol leol yn cael digon o lais ac nad oes cynlluniau yn eu lle i baratoi am newid.

“Mae gofal heb ei drefnu’n broblem anferth i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,” meddai’r Democrat Rhyddfrydol, Aled Roberts.

“Ers pymtheg mlynedd, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyr gamreoli ein hadrannau brys sydd wedi arwain at nifer o bobol yn gorfod aros oriau cyn cael eu gweld.”