Stryd yng Nghymru yw un o’r ddwy sydd â’r gwasanaeth band llydan arafa’ yn y Deyrnas Unedig.
Mae hynny’n golygu y byddai’n cymryd pymtheg awr i’r trigolion lawrlwytho un ffilm HD.
Ac yn ôl arolwg gan wefan uSwitch.com, mae’r gwasanaeth yn Erw Fawr, Henryd, yn Sir Conwy 96 o weithiau’n arafach nag yn y stryd gyflyma’.
Dim ond 15% o bobol y Deyrnas Unedig i gyd sydd â gwasanaeth ‘gwirioneddol gyflym’ ac mae’r uSwitch yn galw am weithredu i wella hynny.
Addewid Llywodraeth Cymru
Ddydd Mawrth, roedd Llywodraeth Cymru’n addo y byddai gan 96% o gartrefi a busnesau Cymru wasanaeth gwirioneddol gyflym erbyn 2016.
Mae cyfuniad o arian cyhoeddus a phreifat yn golygu bod mwy na £400 miliwn yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau yma.
“Mae cysylltiadau gwael yn gallu cael effaith ddifrifol ar fusnesasu lleol, ar brisiau tai ac addysg plant,” meddai uSwitch.
“Dyna pam ei bod yn allweddol fod y Llywodrath yn canolbwyntio ar wella strwythur band llydan yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig diarffordd.”