Ann Clwyd
Roedd y rhan fwya’ o’r cwynion iechyd a wnaed gan yr aelod seneddol, Ann Clwyd, wedi cael eu gwrthod gan banel annibynnol.
Ond roedd yna dystiolaeth i gefnogi un o bob tri o’r cwynion a wnaeth am amodau marwolaeth ei gŵr, Owen Roberts, yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd.
- Ymhlith y rheiny, mae cadarnhad ei fod wedi dal niwmonia tra oedd yn yr ysbyty ac mae beirniadaeth o’r ffaith ei fod wedi ei gadw yn yr Adran Ddamweiniau a Brys am fwy na 24 awr.
- Ond fe wrthodwyd cwynion ei fod wedi ei drin yn greulon, ei fod wedi ei wasgu yn erbyn bariau ei wely a’i fod ef ac Ann Clwyd wedi cael eu hanwybyddu gan staff.
- Yn ôl y panel, doedd dim digon o dystiolaeth i gefnogi honiad yr aelod seneddol bod ei gŵr wedi marw fel “iâr fatri”.
- Fe gafodd naw o’i chwynion eu cadarnhau’n llwyr gan y panel, ac un arall yn rhannol. Ond roedd 21 wedi eu gwrthod, neu heb eu cadarnhau oherwydd diffyg tystiolaeth.
Dadl tros gyhoeddi
Mae dadl arall tros y penderfyniad i gyhoeddi crynodeb o’r adroddiad annibynnol, a hynny ar ôl nifer o geisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, roedden nhw wedi penderfynu y bydden nhw’n torri eu cyfrifoldebau statudol trwy wrthod cyhoeddi’r crynodeb.
Rpedd Ann Clwyd wedi gwrthwynebu’r cyhoeddi ac mae ei thîm cyfreithiol yn trafod ail ymchwiliad gyda’r Bwrdd.