Jill Evans
Mae un o arweinwyr Plaid Cymru wedi galw am wneud heddiw’n ddiwrnod gŵyl banc i ddathlu Dydd Sant Siôr.

Hynny ochr yn ochr, wrth gwrs, â gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc swyddogol yng Nghymru hefyd.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans, mae pobol yr Alban yn gallu dewis dathlu dydd eu nawddsant nhw ac mae gan Ogledd Iwerddon ddwy ŵyl banc ychwanegol – dydd Sant Padrig a dyddiad Brwydr y Boyne.

‘Cyfle braf’

“Byddai Dydd Gŵyl Dewi’n gyfle braf i ddathlu Cymru a Chymreictod ar draws y genedl,” meddai. “A dw i’n siŵr y byddai’r Saeson hefyd yn hoffi cael cyfle i ddathlu eu diwrnod cenedlaethol nhw.

“Pan fo gan weithwyr yng Nghymru a rhannau eraill o wledydd Prydain lai o ddyddiau gŵyl banc statudol na neb arall yn yr Undeb Ewropeaidd, mae’n ein hatgoffa eto bod elw’n rhy aml yn cael ei roi o flaen pobol.”

Er fod Llywodraeth Prydain wedi ymgynghori ynglŷn â chael gwyliau banc ychwanegol, does dim wedi digwydd ers hynny.

Yn ôl Jill Evans, fe ddylai’r Cynulliad gael y grym i benderfynu ar wneud Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc.