Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ymestyn cynllun sy’n helpu cyn-weithwyr ffatri Remploy i ddod o hyd i waith.

Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain ei bod yn cau ffatrïoedd Remploy ar draws Cymru.

Mewn ymateb i hyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi £2 filiwn yng nghynllun Grant Cymorth i Gyflogwyr (ESG) i roi help ariannol i gyflogwyr sy’n awyddus i gyflogi gweithwyr anabl Remploy.

Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ddiwedd Ebrill eleni ond mae gweinidogion wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau tan fis Medi 2014.

Mae’n golygu bod modd parhau i ddefnyddio’r grant i lenwi swyddi tan fis Mawrth 2015.

‘Llwyddiant’

Hyd yma, mae’r cynllun wedi helpu 221 o gyn-weithwyr Remploy i ddod o hyd i waith gyda thros 80 o fusnesau.

Mae’r panel sy’n penderfynu pwy sy’n cael help gan y cynllun hefyd wedi rhoi sel bendith i 177 o swyddi eraill.

Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: “Roeddem yn gwrthwynebu cau ffatrïoedd Remploy Cymru o’r cychwyn cyntaf.

“Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Prydain i fod yn fwy adeiladol a rhoi’r cyfrifoldeb dros Remploy yng Nghymru a chyfran briodol o’r gyllideb i ni.

“Pan wrthodwyd ein cynnig, aethom ati i sefydlu’r cynllun  er mwyn helpu’r rheini oedd yn wynebu diweithdra.

“Byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i helpu’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan gau ffatrïoedd Remploy i ddod o hyd i waith, gwaith y maen nhw’n ei fwynhau ac sy’n gweddu eu hamgylchiadau.”