Mae hen siop recordiau Cob ym Mangor wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n ailagor fel lleoliad celfyddydol dros y misoedd nesaf.
Bydd Hen Cob yn cael ei drawsnewid yn barlwr cerddorol a chelfyddydol fydd yn cynnig arlwy o gerddoriaeth byw, comedi, drama, arddangosfeydd celf a mwy.
Bydd arlwy o gynnyrch lleol, gan gynnwys coffi a chwrw lleol, hefyd ar gael yn y siop newydd, dwy flynedd wedi iddi gau fel siop oedd yn gwerthu recordiau.
Ymysg y rheiny fydd yn cefnogi’r lansiad ar 26 Ebrill mae The Earth, prosiect newydd Dafydd Ieuan (Super Furry Animals) a Mark Roberts (Y Cyrff a Catatonia), a’r band lleol ifanc Y Chwalfa.
Mae’r drysau yn agor am 8yh gyda thocyn mynediad yn £6, ac fe fydd amserlen lawn o ddigwyddiadau yn cael ei gyhoeddi ar wefan www.hencob.com dros yr wythnosau nesaf.