Mae Ofcom wedi cyhoeddi na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn cwynion ynglŷn â thrafodaeth am yr iaith Gymraeg ar BBC Radio Wales.

Roedd Oliver Hides ar raglen Morning Call wedi gofyn i’r gwrandawyr: “A ydy’r iaith Gymraeg yn eich cynddeiriogi chi?”

Roedd o leiaf 22 o bobol wedi cwyno i Ofcom gydag eraill yn cwestiynu “doethineb golygyddol” y rhaglen ac yn gresynu pa wlad arall yn y byd fyddai’n cwestiynu gwerth ei hiaith yn y fath fodd.

Dywed Ofcom Cymru y byddan nhw’n asesu’r cwynion ond fe gyhoeddwyd heddiw na fydd y corff rheoleiddio yn ymchwilio ymhellach.

Cefndir

Roedd y drafodaeth yn dilyn sylw a wnaed gan aelod o staff y siop Hobo’s yng Nghaerdydd, ynglŷn â’r ffaith bod dau gwsmer yn siarad Cymraeg yn y siop.

Dywedodd ei fod wedi penderfynu troi sŵn y gerddoriaeth i fyny er mwyn peidio â’u clywed gan fod yr iaith “yn mynd ar ei nerfau.” Mae bellach wedi ymddiheuro am ei sylwadau.


Canlyniadau pôl piniwn Golwg360 ar y mater
Roedd 72% o’r rheiny a bleidleisiodd ym mhôl piniwn golwg360 wedi dweud na ddylai Radio Wales fod wedi cynnal y drafodaeth am yr iaith Gymraeg.

Roedd BBC Cymru wedi amddiffyn y rhaglen gan ddweud nad oedd y cwestiwn yn ceisio awgrymu fod pobol yn cael eu cynddeiriogi gan y Gymraeg.